Llithriwl

Hen lithriwl a wnaed yn Nenmarc, gyda'i orchudd lledr. Mae'r rhan canol yn llithro i'r chwith ac i'r dde.

Dyfais analog i gyfrifo yw'r llithriwl (Saesneg: slide-rule) sy'n air cyfansawdd: 'llithro' a 'riwl' (pren mesur).[1] Mae'n ddyfais raddedig, gyda chanol symudol iddi, ac fe'i defnyddir fel canllaw i wneud cyfrifiadau mathemategol. Gellir ei hystyried fel rhagflaenydd y cyfrifiadur.[2][3][4]

Fe'i defnyddir yn bennaf ar gyfer lluosi a rhannu, a hefyd ar gyfer ffwythiannau megis esbonyddion (exponents), ail-israddau, logarithmau a trigonometreg, ond nid fel arfer ar gefer adio neu dynnu. Er ei bod yn debyg o ran enw ac ymddangosiad i bren mesur, nid ar gyfer mesur hyd, neu i greu llinellau syth y bwriadwyd y ddyfais.

Fe'u cynhyrchwyd, dros y blynyddoedd, mewn gwahanol steil, ac mae'r manylion arnynt (y 'raddfa') yn newid, fel bo'r angen. Ceir rhai arbenigol e.e. arferid cynhyrchu llithriwliau ar gyfer y byd hedfan a chyllid, fyddai'n cyflymu'r broses o gyfrifo yn y meysydd hynny.

Ar ei symlaf, mae pob rhif sydd i'w luosi yn cael ei gynrychioli gan hyd ar y llithriwl. Ceir graddfa logarithmig ar bob un, mae'n bosibl halinio'r riwl canol (yr un sy'n llithro) i ddarllen swm y logarithmau, ac felly cyfrifo lluoswm y ddau rif.

Mae'r llithriwl hon wedi'i gosod i greu nifer o werthoedd: O raddfa C i raddfa D (lluosi â 2), o raddfa D i raddfa C (rhannu gyda 2), graddfeydd A a B (lluosi a rhannu â 4), graddfeydd A a D (sgwario ac ail isradd).
  1. termau.cymru; Y Termiadur Addysg - Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 14 Hydref 2018.
  2. Berrey, Lester V.; van den Bark, Melvin (1953). American Thesaurus of Slang: A Complete Reference Book of Colloquial Speech (arg. Ail). Crowell. OCLC 319462.
  3. Petroski, Henry (2011). An Engineer's Alphabet: Gleanings from the Softer Side of a Profession. Cambridge University Press. tt. 46–47. ISBN 9781139505307. Cyrchwyd 21 Mawrth 2017.
  4. Roger R. Flynn (Mehefin 2002). Computer sciences. 1. Macmillan. t. 175. ISBN 978-0-02-865567-3. Cyrchwyd 30 Mawrth 2013. The slide rule is an example of a mechanical analog computer...

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne